Trosolwg
Fe sefydlodd Cyfarwyddiaeth Addysg ÍæÅ¼½ã½ã Gwent Gymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae’r gymuned ddysgu’n cynnwys tri champws cynradd sydd wedi’u lleoli ar Heol Roseheyworth, Heol y Chwe Chloch a Stryd Tyleri ynghyd ag un campws uwchradd ar Stryd Alma; sydd, gyda’i gilydd, yn ysgol pob oed.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ÍæÅ¼½ã½ã Gwent yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Gan hynny, mae’r Cyngor yn ymateb i’r lefel uchel o leoedd gwag yng nghampysau Cynradd Cymuned Ddysgu Abertyleri.
Y Cynnig
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig lleihau’r capasiti lleoedd cynradd ar y cyfan yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri o 980 i 770 – gostyngiad o 210 o leoedd (21%) – trwy gau un campws cynradd. Yr opsiwn a ffefrir yw cau Campws Heol Roseheyworth, sydd â’r nifer isaf o ddisgyblion o oedran statudol ar y gofrestr (119) a’r lefelau uchaf o waith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni oherwydd oedran a chyflwr yr adeilad. Gellir rhoi lle i’r holl ddisgyblion sy’n mynychu Campws Heol Roseheyworth ar hyn o bryd ar safleoedd y campysau cynradd a fydd yn weddill.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol ÍæÅ¼½ã½ã Gwent yn cefnogi uwch dîm arwain Cymuned Ddysgu Abertyleri i sicrhau parhad cyfleoedd dysgu cynradd o ansawdd da ar draws yr ysgol. Mae’r Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor sy’n cefnogi twf, datblygiad a deilliannau gwell ar sail barhaus.
Felly, bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflawni fel a ganlyn:
- I lleihau capasiti'r ysgol gynradd, sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri, o 980 i 770, i leihau capasiti corfforol Cymuned Ddysgu Abertyleri drwy gau Campws Heol Roseheyworth a symud disgyblion i'r campysau sy'n weddill (Campws Six Bells a Champws Stryd Tyleri) gyda gweithredu'n raddol yn dechrau o fis Medi 2026 a chyda gweithredu'n llawn erbyn mis Medi 2027.
Byddai’r cynnig yn ategu Gweledigaeth ÍæÅ¼½ã½ã Gwent ar gyfer Addysg fel a ganlyn:
‘Grymuso ein cymunedau i fod yn ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, egwyddorol a gwybodus sy’n byw bywydau llawn ac iach.’
Mae'r Ymgynghoriad Ffurfiol bellach wedi dod i ben ar Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026.
Mae'r Cyfnod Hysbysiad Statudol hefyd bellach wedi dod i ben ar Dydd Mercher 3 Mehefin 2026.
Aeth y Adroddiad Ymhelaethau i Gabinet y Cyngor llawn ar gyfer penderfyniad ar Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026 ac mae copi ar y dudalen hon i wybodaeth. Cafwyd cyfanswm o 389 o wrthwynebiadau i'r cynnig, gyda gweithredu llawn o Fedi 2027.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.
Dogfennau cysylltiedig
- Llythyr Penderfyniad
- Adroddiad y Cyngor
- Adroddiad Gwrthwynebiadau
- Wedi ei ddiwygio IIA v2
- IIA v2
- CIA v2
- Dogfen ymgynghori
- Fersiwn Plant a Phobl Ifanc o’r ddogfen ymgynghori